


SARA MAI BA MA MBACP
Therapi | Seicffit | Ymarfer Corff
Pwy ydy Redloxx?
Haia! Sara dw'i a dw'i wedi bod yn seicotherpydd cofrestredig ers 16 mlynedd bellach. Dw'i yn gweithio efo oedolion a phobl ifanc, ac yn credu mewn cynnig dull modern o therapi.
Dwi yn cynnal sesiynau therapi wyneb yn wyneb yn fy stwidio neu ar-lein. Dwi yma i'ch helpu chi ddatrys problemau a chynnig rhyddhad o faterion iechyd meddwl megis gorbryder ac iselder. Mae cael therapydd ond yn gofyn cwestiynau fel "sut wyt ti'n teimlo am hyn?" yn gallu bod yn rwystredig iawn. Mi fydda i yn fi fy hun drwy'r sesiynau er mwyn i ni allu adeiladu'r berthynas rhyngddom ac i chi ymddiried yndda i. Mae hyn yn bwysig er mwyn cael canlyniad effeithiol a llwyddiannus.
Sesiynau therapi
Os ydych wedi meddwl am gael sesiynau therapi ers tro, efallai eich bod yn barod i fentro a rhoi cynnig arni. Does dim byd i'w golli, rhowch gynnig ar un sesiwn i ddechrau a gweld sut mae'n mynd. Dw i'n gwybod o brofiad bod therapi'n gweithio, a mi fyddai'n rhoi cant y cant i bob cleient gan mod i eisiau eich gweld chi'n llwyddo! Dw i'n gwybod sut deimlad ydy bod yn sownd felly dw i'n deall. Mi fyddai efo chi ar hyd y daith - gall fod yn heriol ac emosiynol, ond byddaf yno i'ch arwain i le gwell.
Be dwi’n fwynhau fwyaf am fy ngwaith?
Mae gweld pobl yn cyrraedd lle o ddeall eu hunain yn well ac yn y pen draw yn teimlo'n hapusach y teimlad gorau i mi. Dwi'n caru bod ar y siwrna' boncyrs 'ma ryda ni'n alw'n fywyd hefo chi.
Mae pawb yn haeddu bod yn hapus.
Sara
GWASANAETHAU REDLOXX

THERAPI UN I UN / THERAPI PERTHYNAS
Wyneb yn wyneb, ar-lein, ffôn, neu decst. Beth bynnag sy'n addas i'ch anghenion chi, gallaf gynnig hyn i chi.
Mae cychwyn therapi yn gallu bod yn brofiad anodd. Yn y sesiwn cynta’ mi fyddwn yn cychwyn ar drafod chi fel person cyn mentro i lefydd rhy bersonol. Ma’ hyn yn rhoi gofod i ni adeiladu perthynas ac i chi gael teimlo fwy hamddenol yn fy nghwmni. Ma’ angen i chi allu ymddiried yna i cyn i ni allu mynd i unrhyw le dwfn a ma’ hyn yn ok os ydio’n cymryd ambell i sesiwn.

SEICFFIT
Seicffit yw cyfuno ymarfer corff a therapi.
Wyneb yn wyneb neu alwad fideo ar-lein.
Symud y corff tra'n siarad.
Mae Seicffit yn ddewis amgen gwych i gael therapi arferol os ydych chi'n cael trafferth i eistedd yn llonydd am gyfnodau hir neu'n ei chael hi'n anodd i wneud cyswllt llygad. Mae hefyd yn ffordd hyfryd o gyflwyno ymarfer corff i'ch bywyd. Mae manteision ymarfer corff ar ein hiechyd meddwl yn amhrisiadwy.

YMARFER CORFF
Sesiynau ymarfer corff wedi'u creu ar eich cyfer gan ddefnyddio offer cyfyngedig gartref neu ar gyfer y gampfa. Os ydych yn ffendio hi'n anodd cyrraedd sesiynau rheolaidd gyda HP neu ddosbarthiadau, byddai'r ymarferion hyn yn eich siwtio. Gallwch eu gwneud yn eich amser eich hun a chi fyddai'n penderfynu pryd a ble i wneud yr ymarfer corff.
Dyma Sara yn esbonio am y gwasanaethau sy'n cael eu cynnig yn Redloxx Wellbeing / Llesiant. Cafwyd y fideo ei greu gan Cread Cyf fel rhan o brosiect Arfor.
Unrhyw gwestiynau? Cysylltwch!